Y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd yr Ysgyfaint

Cross-Party Group on Lung Health

 

Cofnodion 22 Tachwedd 2022

 

Yn bresennol

 

Aelodau o’r Senedd

John Griffiths AS (gyda chefnogaeth Shah Shumon)

Mike Hedges AS (wedi’i gynrychioli gan Ryland Doyle)

Altaf Hussain AS

Rhun ap Iorwerth AS (wedi’i gynrychioli gan Rhys Hughes)

Jayne Bryant AS (wedi’i chynrychioli gan Libby Bradbury)

 

Heb fod yn Aelodau o’r Senedd

Joseph Carter – Asthma + Lung UK Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Andrew Cumella

Anthony Davies

Anna Francis

Chris Davies

Chrissie Gallimore

Dave Edwards

Jennie Stone

Joanne Allen

Josephine Cock

Jonathan Morgan

Julie Mayes

Kimberley Lewis

Neil Harris

Nicola Perry-Gower

Pam Lloyd

Rebecca

Sarah Cadell

Simon Barry

Stephanie Morgan

Stephanie Woodland

Tracy Cross

Valerie Ann Tweedie

Val Maidment

Verdun

 

 

Ymddiheuriadau 

David Rees AS

Vikki Howells AS

Jane Dodds AS

Natasha Asghar AS

Hefin David AS

Luke Fletcher AS

Tom Giffard AS

Siân Gwenllian AS

Altaf Hussain AS

Mark Isherwood AS

Sarah Murphy AS

Rhys ab Owen AS

Rhianon Passmore AS

Jack Sargeant AS

Cefin Campbell AS

Rhun ap Iorwerth AS

Hannah Blythyn AS

Mick Antoniw AS

Carolyn Thomas AS

Samuel Kurtz AS

Llyr Gruffydd AS

Delyth Jewell AS

 

 

 

 

1.    John Griffiths AS – Croeso a chyflwyniadau

 

Dechreuodd John Griffiths AS y cyfarfod, gan ddiolch i bawb am ddod. Gofynnodd a oedd unrhyw Aelod o’r Senedd neu unrhyw aelod o staff cymorth am gyflwyno eu hunain. Cyflwynodd Altaf Hussain AS ei hun.

 

Eglurodd John Griffiths AS y byddai tri pherson yn rhoi cyflwyniad heddiw: Andrew Cumella, Julie Mayes a Dr Simon Barry.

 

Anogodd bobl i ofyn unrhyw gwestiynau drwy ddefnyddio’r cyfleuster sgwrs.

 

 

2.    John Griffiths AS Cofnodion y cyfarfod diweddaf  

 

Cafodd y cofnodion eu cynnig gan David Rees AS, a chawsant eu heilio gan John Griffiths AS.

 

 

3.   Joseph Carter – Materion sy’n codi

 

Cytunwyd ar y camau gweithredu canlynol yn y cyfarfod blaenorol:

 

·         Cam gweithredu – Joseph Carter i gyflwyno gwaith papur y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i'r Swyddfa Gyflwyno

o   Wedi’i gyflwyno

·         Cam gweithredu – Joseph Carter i ddrafftio llythyr i John Griffiths AS a’i anfon at y Gweinidog

o   Wedi'i gwblhau

 

 

 

 

4.   Andrew Cumella, Asthma + Lung UK Cymru – Lansio’r adroddiad blynyddol ar COPD

 

Cyflwynodd Andrew Cumella ganfyddiadau’r adroddiad COPD ar gyfer 2022 – 'Oedi o ran diagnosis a gofal anghyfartal' (‘Delayed diagnosis and unequal care’). Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar yr ymatebion a gafwyd gan dros 6,000 o bobl, gan gynnwys 373 o bobl yng Nghymru.

 

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar fynediad at ofal COPD ‘sylfaenol’, sy’n cael ei fesur yn ôl cyfran y bobl sy’n cael y bum elfen hanfodol fel y’u diffinnir gan NICE ac sy’n cael cynnig y canlynol:

 

·         Triniaeth a chymorth er mwyn rhoi'r gorau i ysmygu

·         Brechlynnau ar gyfer clefydau niwmococol ac ar gyfer y ffliw

·         Gwasanaethau adfer ysgyfeiniol, os yw hynny’n cael ei nodi

·         Y cyfle i ddatblygu cynllun hunan-reoli personol ar y cyd

·         Triniaeth wedi’i hoptimeiddio ar gyfer cyd-forbidrwydd.

Canfu’r adroddiad fod llai o bobl ledled y DU yn cael gofal sylfaenol na’r hyn a welwyd yn 2021, gyda’r ganran yn gostwng o 24.5 y cant i 17.6 y cant. Yng Nghymru, syrthiodd y ffigur o 17.4 y cant i 13.7 y cant.

 

Roedd canlyniadau’r arolwg yn awgrymu bod amrywiadau weddol eang yn bodoli ar draws y byrddau iechyd. Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan oedd â’r ganran uchaf o bobl a oedd yn cael gofal sylfaenol (19 y cant), a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda oedd â’r ganran isaf, sef 7.9 y cant.

 

Hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, roedd problemau eisoes yn bodoli o ran sicrhau diagnosis a darparu gofal i bobl â COPD. Yn y gorffennol, roeddem yn amcangyfrif bod tua 100,000 o bobl yng Nghymru yn byw heb ddiagnosis priodol o COPD. Mae amcangyfrifon ar draws y DU o ran cyfran y bobl sy’n byw â COPD heb ddiagnosis yn amrywio o hanner y bobl hynny i ddwy ran o dair ohonynt. Canfu’r arolwg a gynhaliwyd gennym yng Nghymru yn 2022 fod rhai pobl yn aros hyd at 10 mlynedd am ddiagnosis priodol ers profi’r symptomau cychwynnol. Dywedodd 21.6 y cant o bobl wrthym eu bod wedi bod yn aros am fwy na bedair blynedd am ddiagnosis o COPD.

 

Un o’r rhesymau dros gael diagnosis hwyr o COPD – sy’n derm ymbarél ar gyfer grŵp o gyflyrau’r ysgyfaint sy’n achosi anawsterau anadlu, gan gynnwys broncitis cronig ac emffysema – yw diffyg ymwybyddiaeth cyffredinol o symptomau’r clefyd, sy’n cynnwys diffyg anadl, peswch ar y frest a haint ar y frest. Dywedodd 41.5 y cant o bobl â COPD yng Nghymru nad oeddent yn gallu adnabod symptomau COPD. Mae hyn yn rhwystr sylweddol o ran cael diagnosis COPD amserol, ac yn cynrychioli cynnydd o’r 22.4 y cant a ddywedodd yn ein harolwg yn 2021 nad oeddent yn gallu adnabod y symptomau.

 

Rhwystr arall yw cael camddiagnosis. Dywedodd mwy nag 1 o bob 7 o bobl eu bod wedi cael camddiagnosis yn sgil y ffaith bod eu meddyg o’r farn bod ganddynt haint ar y frest neu beswch. Mae nifer y bobl sy'n adrodd eu bod wedi cael camddiagnosis wedi gostwng ychydig ers 2021, ond mae'n parhau i fod yn un o bob chwe pherson.

 

Daeth Andrew â’i gyflwyniad i ben drwy nodi’r ceisiadau a ganlyn gan Asthma + Lung UK Cymru:

 

      Cyllido’r broses o roi Datganiad Ansawdd newydd Cymru ar gyfer Clefydau Anadlol ar waith

      Cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch symptomau COPD

      Gwella’r ddarpariaeth o brofion sbirometreg mewn gofal sylfaenol, a hynny ar frys, at ddibenion sicrhau diagnosis o COPD a chyflyrau anadlol eraill.

      Wrth gynnal gwiriadau iechyd yr ysgyfaint, gwella’r broses o dargedu pobl sydd mewn perygl o gael COPD

      Gwella argaeledd gwasanaethau adsefydlu ysgyfeiniol a gwasanaethau ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu

 

Diolchodd John Griffiths AS i Andrew am ei gyflwyniad, gan wahodd cwestiynau a sylwadau.

 

Siaradodd Dr Simon Barry am yr heriau o ran sicrhau bod profion sbirometreg yn cael eu gwneud mewn gofal sylfaenol. Mae wedi cynnig bod GIG Cymru yn gweithredu economi gymysg, lle byddai canolfannau gofal eilaidd yn gwneud rhywfaint o’r gwaith sbirometreg, ond byddai angen cynnwys gofal sylfaenol hefyd. Er ei fod yn derbyn pwynt Andrew am y ffaith bod nifer sylweddol o bobl yn y gymuned sydd â COPD ond nad ydynt wedi cael diagnosis eto, tynnodd sylw at y ffaith nad yw tua 20,000 o bobl ar y gofrestr COPD yn dioddef o COPD.

 

Soniodd hefyd am gyflwr gwasanaethau ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu yng Nghymru. Yn ôl ei amcangyfrif ef, dim ond 2.5 y cant o ysmygwyr sy'n defnyddio gwasanaethau ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu, ac mae anghydraddoldebau enfawr yn y maes hwn. Mae’n pryderu nad yw’r gwasanaethau yr ydym wedi’u datblygu yn gweithio i bobl o gymunedau mwy difreintiedig.

 

Ategodd Kimberley Lewis bryderon Simon am gamddiagnosis. Roedd hi wedi rhoi profion sbirometreg i 50 o bobl yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac wedi canfod nad oedd y mwyafrif ohonynt yn dioddef o weithrediad rhwystrol yr ysgyfaint. Mae hi'n pryderu ei bod yn gweld pobl ag arwyddion posibl o fethiant y galon.

 

 

5.   Julie Mayes – safbwynt y claf

 

Rhannodd Julie Mayes o dde Powys ei safbwynt personol, fel person sy'n byw gyda COPD. Cafodd ddiagnosis tua 20 mlynedd yn ôl. Mae hi'n gyn-ysmygwr, a chafodd ei hysgogi i roi'r gorau iddi gan y diagnosis hwn. Mae ganddi asthma hefyd, ac mae'n dweud bod ei meddyg teulu fel petai’n canolbwyntio mwy ar yr asthma. Soniodd am sut mae COPD yn effeithio ar ei bywyd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, gan nad yw’n gallu anadlu’n iawn yn ystod y tywydd oer. Dywedodd fod tasgau bob dydd fel gwaith tŷ bellach yn anodd iawn iddi. O bryd i’w gilydd, mae hi'n teimlo'n chwithig pan fydd pobl yn galw draw os nad yw ei thŷ yn daclus, gan ei bod hi’n rhy fyr o wynt i lanhau.

 

Tua 3 blynedd yn ôl, cafodd bwl gwael iawn o'r ffliw. Soniodd am fanteision y brechlyn ar gyfer y ffliw a’r brechlyn niwmococol.

 

Wrth gerdded i fyny unrhyw elltydd, mae hi’n colli ei gwynt yn gyflym ac nid yw’n gallu siarad.

 

Mae hi'n teimlo bod cymorth gofal sylfaenol ar gael i bobl ag asthma, ond nid i bobl â COPD. Mewn perthynas ag adsefydlu, mae hi'n teimlo bod llawer o ffocws ar adsefydlu cardiaidd, ond nid ar adsefydlu ysgyfeiniol. Dywedodd Julie y byddai o fudd mawr iddi pe bai grŵp lleol yn cael ei sefydlu yn ne Powys.

Ar yr adeg honno yn y cyfarfod, bu toriad yng nghyflenwad pŵer Julie, gan achosi iddi adael yr alwad. Wedi i Julie ddychwelyd, gwnaeth Joanne Allen o Fwrdd Iechyd Powys gynnig cysylltu â hi i drafod y materion lleol penodol yr oedd yn eu hwynebu.

 

 

6.   Dr Simon Barry – Blaenoriaethau anadlol cenedlaethol

 

Rhannodd Dr Simon Barry ganlyniadau ymarfer gwerthuso a gynhaliwyd mewn perthynas ag apiau asthma a COPD GIG Cymru.

 

Mae’r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol yn gweithio gyda’r Sefydliad Gwyddoniaeth Glinigol a Thechnoleg i ddatblygu ymyriadau arloesol gan gynnwys yr apiau ar gyfer asthma a COPD (yn ogystal â’r ap ôl-COVID).

 

Drwy'r apiau hyn, gellir cynnig addysg i bobl a'u hysbysu ynghylch brechlynnau, pryd y bydd angen iddynt gofnodi symptomau, a meddyginiaethau, ac ati.

 

Pa gynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r apiau?

 

·         Mae’r apiau ar gyfer asthma a COPD wedi cael eu lawrlwytho 20,000 o weithiau.

·         Mae argaeledd ar draws 99 y cant o bractisau.

·         Nid oes amrywiadau daearyddol o ran argaeledd – y gogledd, y de, y dwyrain a’r gorllewin.

·         Nid oes amrywiadau yn y mynegai amddifadedd yn seiliedig ar godau post.

·         Dywed 90 y cant o gleifion sy'n defnyddio'r apiau eu bod yn eu helpu i reoli eu cyflwr.

 

Gofynnwyd y cwestiynau a ganlyn i bobl sy'n defnyddio'r apiau:

 

 

O ran y cleifion hynny sydd wedi bod yn defnyddio'r apiau anadlol yn rheolaidd am fwy na 6 mis:

 

·         Mae 36 y cant o ddefnyddwyr wedi lleihau nifer yr ymweliadau y maent yn eu gwneud â’i practis meddyg teulu.

·         Mae 19 y cant wedi lleihau nifer y derbyniadau y maent yn destun iddynt mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

 

O ran y cleifion hynny yr oedd eu sgôr reoli yn llai na 5 cyn lawrlwytho'r ap, ac sy’n defnyddio’r ap yn fwy aml nag unwaith y mis:

 

·         Mae 44.3 y cant o ddefnyddwyr wedi lleihau nifer yr ymweliadau y maent yn eu gwneud â’u practis meddyg teulu.

·         Mae 33.3 y cant wedi lleihau nifer y derbyniadau y maent yn destun iddynt mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

 

Diolchodd John Griffiths AS i Simon a Julie am eu cyflwyniadau, gan ofyn a oedd unrhyw un am ofyn cwestiwn.

 

Gofynnodd Joseph Carter gwestiwn i Julie, sef a oedd hi wedi cael adolygiadau personol neu rithwir gyda'i meddyg teulu neu nyrs practis. Gwnaeth Joseph ei hannog i roi cynnig ar yr apiau ar gyfer asthma a COPD.

 

Dywedodd Julie ei bod yn cael adolygiadau asthma rheolaidd gyda'i nyrs practis. Dywedodd ei bod yn anodd iddi weld meddyg teulu ac y byddai'n archwilio'r apiau.

 

https://healthhub.wales/cy/

 

Roedd Valerie Ann Tweedie, sydd hefyd yn byw yn ne Powys, yn teimlo nad oedd hi’n cael llawer o gymorth gan ei phractis meddyg teulu. Maent yn rhagnodi gwahanol anadlwyr ar ei chyfer, ond nid ydynt yn ei gweld nac yn trafod ei symptomau a'i chyflwr.

 

Gwnaeth Joanne Allen gynnig siarad â Valerie hefyd.

 

Cam i’w gymryd: Joseph Carter i rannu manylion am Julie Mayes a Valerie Ann Tweedie â Joanne Allen.

 

Cam i’w gymryd: Joseph i ddrafftio llythyr at Eluned Morgan AS, gan grynhoi canlyniadau'r arolwg ynghylch COPD a chanlyniadau'r ymarfer gwerthuso a gynhaliwyd ar yr apiau.

 

Cam i’w gymryd: Joseph i rannu'r wybodaeth a gafwyd gan Dr Simon Barry gyda phob Aelod o’r Senedd.

 

 

7.    Joseph Carter – y cyfarfod nesaf a'r gwaith sydd i ddod

 

Gofynnodd John Griffiths AS i Joseph Carter i siarad am gyfarfodydd yn y dyfodol. Diolchodd Joseph i bawb am eu cyfraniadau ac am roi o’u hamser i ddod i’r cyfarfod. Cadarnhaodd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 14 Chwefror 2023, pan fydd y Grŵp Trawsbleidiol yn canolbwyntio ar y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol.

 

 

8.   John Griffiths AS – Unrhyw fater arall

 

Gofynnodd John Griffiths AS a oedd gan unrhyw un unrhyw fater arall. Nid oedd unrhyw fater arall, felly diolchodd i bawb am fod yn bresennol a daeth â’r cyfarfod i ben.